|
Ysgol Glan Morfa, Abergele Glan Morfa was the school I attended in the 60s. I enjoyed going to this school and I didn't hesitate when asked to contribute a piece to the school's 50th anniversary book. Here's the text I wrote in Welsh. (Gareth Morlais June 2008)
Mae meddwl yn ôl at fy nyddiau cynnar yn Ysgol Glan Morfa yn dwyn atgofion melys. Atgofion o'r 60au; bron i hanner canrif yn ôl. Cerdded o High Street ar fore gaeafol yn Ilaw fy mam. Cyrraedd giât yr ysgol a rhedeg heibio pentwr "coke" y boiler er mwyn cael chwarae gyda'm ffrindiau cyn rhuthro i ffurfio rhesi i fartsio i mewn i'r ysgol. Awel deg o gyfeiriad y tai bach yn cario arogl y sebon carbolic. Yna martsio'n hamddenol barchus i'r Gwasanaeth dan ofal Miss Rhiannon Davies ein Prifathrawes. Dechrau'r dydd yn nosbarth Miss Dilys Roberts a phawb yn hapus yn chwarae gyda thyfod a d?r, clai a phaent. Oedi wedyn i yfed potelaid o lefrith trwy welltyn papur ac ar foreau oer y Ilefrith yn cael ei dwymo o flaen y gwresogydd nes ei fod, yn ein tyb ni o leiaf, ar fin suro. Amser chwarae a phawb yn rasio allan i chwarae "Kiss-Kiss-Corner", "Kingie" a "Concers" yn eu tymor, dan ofal Mrs Hughes, mam Melfyn. A s?n peiriannau gydag olwynion enfawr yn adeiladu ffordd osgoi newydd Abergele yn gefndir i hyn oll. Yn ôl i'r dosbarth a gwylio'r teledu a ni'r bechgyn yn ein trowsusau byrion a'n "blazers" glas, yn eistedd yn hanner cylch ar y Ilawr yn syllu i fyny a gwylio Cliff Michelmore yn sylwebu ar gamau cyntaf Neil Armstrong ar y Ileuad a ninnau'n methu credu na dirnad yr hyn a welem. Ymhen ychydig ddyddiau dagrau yn ein Ilygaid wrth i Miss Davies gyhoeddi fod Iladron wedi torri mewn i'r ysgol a dwyn ein teledu. Mis Rhagfyr a pharti Nadolig Ysgol Glan Morfa yn y neuadd. Siôn
Corn yn cyrraedd yn ei hofrennydd a Miss Roberts yn gofyn a oeddem ni'n
barod iddo fo ddod a'n anrhegion ni? "Ydan!!" oedd ein bloedd
fyddarol. Gareth Morlais Williams (c) Gareth Morlais 1996-2007 |
Abergele
in Shorts
- by Gareth Morlais Click here to see a list of Abergele-related eBay items |