Trwy'r Dyfroedd gan Robert John Owens 1978

Hunangofiant Robert John Owens 1921-2006 yw Trwy'r Dyfroedd. Ysgrifennodd hanes ei fywyd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978. Roedd Robert John yn ffrind i'n teulu ac roeddwn i wedi trafod cyhoeddi ei lyfr arlein gyda fo cyn iddo farw. Mae ei hanes yn unigryw am sawl reswm. Roedd ganddo cerebral palsy ac roedd teipio pob llythyren ar ei deipiadur yn gampwaith gan fod hyn yn beth mor anodd iddo. Bu'n ddylanwad mawr arnom ni ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen hanes Robert John...

Oriel 1 o 3 (63 o dudalennau) Next

01 02 03 04 05 06
01.jpg 02.jpg 03.jpg 04.jpg 05.jpg 06.jpg
07 08 09 10 11 12
07.jpg 08.jpg 09.jpg 10.jpg 11.jpg 12.jpg
13 14 15 16 17 18
13.jpg 14.jpg 15.jpg 16.jpg 17.jpg 18.jpg
19 20 21 22 23 24
19.jpg 20.jpg 21.jpg 22.jpg 23.jpg 24.jpg

Teyrnged i Robert John Owens gan John Emrys Williams, fy nhad, yn angladd Robert John.
Cerdd 'Y Car Bach Pel Blue' gan John Emrys Williams, fy nhaid, am gar Robert John.
Gwybodaeth am Scope Cymru a sut i wneud cyfraniad ariannol i'r elusen.
Lawrlwythwch yr holl destun ar ffurf ffeil enfawr PDF (16Mb)
(cliciwch botwm dde y llygoden a dewiswch 'Save As...')


Background in English - this is the Welsh-language autobiography, written in 1978, by Robert John Owens, 1921-2006. He was a friend of our family. His story was never published during his lifetime. Robert John had cerebral palsy and his account of growing up in rural Wales in the 1920s, 30s, 40s, 50s, 60s and 70s is unique.

Hawlfraint Robert John Owens 1978 yw Trwy'r Dyfroedd a datgenir ei hawl i gael ei adnabod fel awdur y testun yn unol a Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

Gwefan gan Gareth Morlais - melynmelyn (at) gmail dot com


Dyma destun y bennod cyntaf. Diolch i Dad am y teipio...

TRWY’R DYFROEDD.

Gan Robert John Owens, Llandudno.

Pennod 1

Robat John Owens. Yn ei barti yn 70 oed. 1991.

Pe bawn i heb gael fy symud o’r fan honno yng nghysgod tas wair ryw hanner awr ynghynt, buaswn wedi’m claddu o dan lwythi lawer o ysgybau y^d. Er bod dau gocyn o leiaf wedi eu codi’n gytbwys, am ryw reswm, goleddodd yr olaf y ty hwnt i ddiogelwch Twr Pisa, nes dymchwel yn llanast ar bwys y das. Diau i’m tad neu un o’r dynion synhwyro’r perygl mewn pryd, a symud y goets fach i le mwy diogel. ‘Does gen i ddim co faint oedd fy oed i, ond mae’n rhaid fy mod i rywle o’r pump i wyth oed. Fe allech yn hawdd ddeud fy mod yn nes i ddwyflwydd, os oeddwn yn eistedd mewn coets. Go brin y buaswn yn gweld y cocyn y^d hwnnw yn dymchwel yn yr oedran hwnnw. Y rheswm pam fy mod yn eistedd mewn coets oedd na fedrwn i ddim cerdd fy hun heb afael yn llaw rhywun, yn bump, ac am flynyddoedd wedyn. Ni chafodd fy nhad na’m mam ddim profi’r mwynhad na’r wefr o wylio’i hunig blentyn yn mentro’i gam cyntaf o’u gafael. Wrth ddisgwyl yn hir ac yn ofer, bu’n rhaid iddynt wynebu’r ffaith creulon fod rhywbeth o’i le arnaf.

‘Roedd fy rhieni, ill dau, dros eu deugain oed yn priodi. Mae’n rhaid mai rhieni fy nhad a gymerodd y Gwyndy Uchaf yn ardal Betws-yn-Rhos wedi i rieni Yr Athro T Gwyn Jones, y bardd, ymadael i ardal Hen Golwyn, ond go brin fod yna unrhyw egwyddor yn peri eu symud nhw oddi yno. Unig ddawn fy nhaid oedd ffermio a diota, yn ôl pob sôn. Ond fe symudwyd ef a’i briod i’r fynwent, a gadael tri mab ar ol i bara ‘mlaen ar y fferm. Ond fe ddaeth elfen symudol arall i’w haflonyddu. Penderfynodd f’ewyrth John briodi merch Peniarth Fawr, a’i gwneud, wrth gwrs, yn feistres y Gwyndy Uchaf. Y nesaf i anesmwytho oedd Owen; rhoes ef ei fryd ar ferch oedd yn byw gyda’i nhain ar fferm gyfagos, Sarah Lloyd Davies wrth ei henw, a hon oedd fy mam. Mewn cyfnod pan ‘roedd yn rhaid i blant ufuddhau i’w rhieni, yn gam neu gymwys, bu rhaid i mam adael Ysgol Fwrdd, Llanrwst, ar wys ei thad, a mynd i ofalu am ei nhain weddw ym Mron Pistyll, y Betws, a hithau yn ddim ond pymtheg oed. Prin ond hyawdl undonog fyddai sylwadau mam ar y chwarter canrif hwnnw o dan lygaid gormesol ei nhain. Yn ol a glywais gan berthynas i’n nhad, rhythro adre a wnai o bob oedfa a chyfarfod er mwyn ysgoi yr ensyniad o fod efo’r hogia. Er gwaethaf hyn, fe gafodd hithau un ysbaid o wyliau gyda’i hewyrth yng nghyffiniau Caerdydd. Profiad hollol newydd oedd hwn iddi, a phleserus, mae’n debyg, oherwydd fe soniai amdano’n gyson. Ond mae ei charwriaeth a nhad yn llyfr llwyr gaeedig. Ni ddywedodd hi ddim wrthyf ac ni holais i. Beth bynnag, fe’u priodwyd rhywbryd yn ystod 1920, a nhad yn saith a deugain oed, a mam yn chwe blynedd yn iau.

Wedi priodi, mentro, er gwaethaf eu hoedran, i brynu fferm mewn ardal estron iddynt, a drudaniaeth y Rhyfel Mawr yn dwyshau. ‘Roedd ardal Eglwysbach, Dyffryn Conwy, yn fwy cyfarwydd i fy mam nag i’m tad. Oddi yno daeth ei nain a’i thaid, efo yn fab Y Dyffryn ac yn frawd i fam yr enwog bregethwr hynod John Evan a gariodd enw’r pentref i bobman. Trigai chwaer arall mewn fferm heb fod ymhell o’r Hendre, yr un a ddaeth i feddiant fy rhieni. Felly doedd hi ddim yn rhy anodd iddynt ymgartrefu yn eu cynefin newydd. Ond, ysywaeth, fe gostiodd y fferm newydd dipyn mwy nag a roddwyd amdani wrth ei phrynu. Bu’n rhaid suddo cyfalaf i’w thir gwael a’i beudai adfaeliedig. Pobl eraill a elwodd o ffrwyth eu llafur. A phan ddaethum innau i’r byd ym mis Hyref 1921, fe ddaeth yn amlwg y byddai’n rhaid gwario arian gloywon i feddygon ac ysbytai er mwy chwilio am feddiginiaeth i’r parlys a rwystrai fy natblygiad corfforol.

Diau i’m rhieni ofyn y cwestiwn pam y digwyddodd hi felly. ‘Doedd oed mam ddim yn help, ac fe fu awr y geni yn un anodd, anodd. Ond fe all mamau ifanc gael yr un ffawd, a chael plant llawer gwaeth eu cyflwr na mi. Digwyddodd rhywbeth arall a allai fod wedi achosi’r nam, sef damwain a gawsom ni’n tri mewn car a merlen oedd yn anifail nerfus ar y gorau. Dod adref yr oeddem ni, a minnau’n fabi yng nghol fy mam, ar ffordd yr ucheldir rhwng Betws-yn-Rhos ac Eglwysbach , pan gododd dau ddyn o fon clawdd a dychryn y ferlen, nes iddi gamu’n ddilywodraeth i lawr allt serth, a doedd dim i’w wneud ond troi’r cerbyd drosodd, a’i lwyth o dri yn cael ei luchio yn erbyn un o’r cloddiau, gan beri niwed i ysgwydd fy mam, wrth iddi geisio fy arbed i mae’n debyg. I bob golwg ni chefais i unrhyw niwed, ond bu dyfalu dwys yn ddiweddarach ai’r ddamwain honno oedd gwir achos fy methiant.

Beth bynnag fe ddaeth yn bur amlwg na fendiwn i ddim trwy wybod yr achos. A minnau bellach yn dair oed, dyma benderfynu fy anfon am driniaeth llawfeddygol i ysbyty y Royal Southern yn Lerpwl bell. Newid cyfeiriad fy neudroed oedd eu hamcan, gan eu bod yn cyfeirio tuag i mewn yn ormodol. Mae creithiau’r driniaeth honno yn aros ar gefn fy sodlau, ac un arall llai amlwg, uwchben y glun chwith.

Dibynnaf yn llwyr ar gof fy mam wrth son am y naw mis a dreuliais yn Lerpwl. Ni chofiais ddim am loes gadael cartref uniaith Gymraeg i ganol aroglau diheintiedig ac awyrgylch llwyr Saesnig yr ysbyty. Ymddengys i rywun ofyn i mi, yng ngwydd fy mam, bachgen bach pwy o’n i? Yr ateb a gafodd oedd,” Nurs White” Prawf go gryf fy mod wedi hen gynefino, a’r lle wedi gwneud estrones llwyr o fy mam fy hun. Torrwyd fy nghysylltiad a’m cartref yn llwyr er waetha’r ffaith fod fy rhieni’n ymweld mor aml ag y caniatai pellter iddynt, a bod gan mam gefnder oedd ar y pryd yn weinidog ar eglwys Princes Road, sef y Parch H. Harris Hughes, Prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth wedyn, un oedd yn ddolen gyswllt pwysig iawn iddynt. Hefyd ‘roedd yno berthynasau i gydnabod yn byw yn Lerpwl, ac felly ‘doedd fy rhieni ddim hed wybod fy hynt a’m helynt. Fodd bynnag, bu’n rhaid i staff yr ysbyty, rywdro, eu hysbysu fod yn rhaid fy symud i ysbyty arall oedd yn delio a heintiau. ‘Roeddwn yng ngafael y dwymyn goch. Yn y dyddiau hynny ‘roedd haint o’r fath yn gymaint mwy peryglus, a rhaid oedd dod yr holl ffordd i ysbyty Fazarkerley i’m gweld, ac wedi iddynt gyrraedd ni chawsant ond edrych arnaf o bell a thrwy wydr, a’r boddhad o’m gweld i yn edrych yn ol arnynt fel pe bawn wedi eu hadnabod. Pa mor ddwys bynnag oedd yr argyfwng y bu mi ynddo, gwella fu fy rhan, a dychwelyd i’r hen ysbyty, a chael dod adref yn y man a ‘nhad yn gwylltio’n gaclwm wrth fy ngweld i wedi teneuo gymaint, yn dangos na chefais i ddigog i fwyta tra fum yno. Ni allai ef weld fod yn rhaid i ysbytai yn y dyddiau hynny ddewis rhwg bwydo claf neu roi ffisig iddo. Cyfraniadau gwirfoddol y cyhoedd a thal y cleifion oedd yn eu cynnal a’u cadw, ond fy nghyflwr gweledig i, yn hytrach na phroblemau’r ysbyty a gythryddai nhad, yn gymaint felly nes iddo wrthod imi gael unrhyw archwiliad na thriniaeth pellach fel yr arfaethai meddygon. Gartref, felly cefais i aros am bedair blynedd o leiaf ynghanol digonedd o gig moch ac wyau a bara menyn cartref, a mam yn prynu poteli o olew iau penfras—“cod liver oil”, fel y galwai hi ef--- a rhywbeth a elwid yn”Roblin” a chanddo yr enw am beri nerth i’r cyhyrau, rhag ofn y gwnaent hwy leihau effeithiau’r parlys, oedd bellach, ond i raddau gwahanol, yn amharu ar bedwar aelod. Fedrwn i ddim siarad yn rhy eglyr chwaith, ond deallai fy rhieni ddigon i wybob na siaradwn Gymraeg! Wedi cael naw mis o ymarfer, Saesneg Lerpwl a barablwn i, a hwythau’n gorfod troi at yr iaith honno er fy mwyn; tipyn o broblem i fy nhad, yn enwedig. Ond buan iawn y collais fy Saesneg yng nghanol y mor o Gymraeg a’m hamgylchynai bob dydd. Ni chredaf ddim fod unrhyw niwed seicolegol, parhaol wedi digwydd wrth newid iaeth ddwywaith drosodd.

Bu bron imi golli fy Nghymraeg drachefn pan anfonwyd fi am driniaeth bellach i ysbyty Gobowen, ger Croesoswallt er gwaethaf fy mhenderyniad saithmlwyth oed i beidio mynd. Fy ffordd i o achyb yr iaeth yn1928 oedd canu, canu emynau, achos wyddwn i ddim byd arall! Ond, ar ol dechrau brwdfrydig, disodlwyd y gan gan weithgarwch arferol ac estronol yr ysbyty a barhaodd am wyth mis, nes dychwelyd adre yn cofio’n sydyn am eiriau Cymraeg yng nghanol brawddegau Saesneg megis: “Where is the gath?” ‘Doedd y bachgen saithmlwydd ddim wedi anghofio’n llwyr.

Bum dan driniaeth lawfeddygol yng Ngobowen hefyd, ac mae gen i frith gof gweld—ac arogli---cadach y clorofform yn cael ei ddodi ar fy wyneb, ar braw o fy nheimlo fy hun yn llithro i ebargofiant. Atgof arall am yr amser a dreiliais i yno yw swn y trenau yn rhybedio’r rheiliau yn nhrymder nos, a rheini’n fy rhwustro gysgu. Rhyw elfennau anfelys fel yna sy’n nodweddu’r cyfnod. Cael anrhegion o lyfrau gan gymdogion a ffrindiau, ond yn mynd ar goll, er mor werthfawr oedd rhai ohonynt. Byddai’r plant yn cael gwersi ysgol, ond mae gen i deimlad mai cael fy ngadael allan oeddwn i. Wn i ddim pam, os nad oeddwn i’n floesg fy nhafod. Wn i ddim ai yno, ynghanol plant anabl, tebig i mi fy hun, y daeth y profiad annifyr o fod y tu allan i lefeiriant gweithgareddau cyffredin pobl o’m cwmpas i’m hymwybod gyntaf, yntau ai cynt ai wedyn. Beth bynnag tyfu a wnaeth o’i ail-adrodd trosodd a throsodd, yn graith ddofn yn fy enaid.

Cefais ddod adref yng nghwrs amser, ac adref y bum i o hynny ymlaen, er bod y meddygon yn dod i’m gweld yn weddol aml mewn clinig ym Mae Colwyn a barhaodd drwy fy machgedod. Cynhelid fy nwy goes gan yr hyn a alwem ni yn”steels”—calipelau yw’r enw swyddogol arnynt--- dwy roden ddur o’r glun i’r sawdl oedd yn gwneud plygu’r pengliniau yn amhosibl, a byddai’n rhaid i mam ymarfer fy nghoesau pob dydd. Fuom ni ddim yn hir cyn eu tynnu am y tro olaf gan eu bod yn fwy o rwystr nag o help.

...ymlaen i Bennod 2