Trwy'r Dyfroedd gan Robert John Owens 1978

   

Teyrnged i Robert John Owens

Robat John Owens yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed ym 1991. Awdur y teurnged, fy Nhad, sydd yn gwisgo'r tei coch yn y cefndir

Nid yn aml y mae rhywun yn cael y fraint o ddod i adnabod unigolyn arbennig ac unigryw. Dyn felna oedd Robert John Owens. Fe'i ganed yn "Y Ffatri" Eglwysbach ym mis Hydref, 1921 yn unig blentyn i Owen a Sarha Owens. Yn ei arddegau symudodd ef a'i fam i Glan Conwy i fyw ar ôl marwolaeth ei dad, a bu'r ddau yn ymlwybro'n ddygn i'w cynnal ei gilydd mewn cyfnod pur anodd yn eu hanes.

Cafodd Robert John ei eni'n "Spastic", ac fe dreuliodd amser maith mewn ysbytai yn Lerpwl a Gobowen, ond buan y sylweddolwyd nad oedd gwellhad i fod, a thrwy gydol ei oes faith fe dderbyniodd ei ffawd a dioddefodd yn ddewr y poen corff a meddwl a gyfyd o'r cyflwr hwn. Yn ei ddyddiau cynnar gallasai ymlwybro gerdded yn drwsgl a lletchwith gyda chymorth dwy ffon, ond yn amlach na dim diwedd ei daith fyddai ar ei hyd ar y llawr, ac yn amlach na dim hefyd fe'i caech yn powlio chwerthin am ei ben ei hun am ei anffawd. Dyn felna oedd Robert John. Cyfnod byr iawn oedd y cyfnod cerdded annibynnol ac o hynny ymlaen bu'n ddibynnol ar fraich ei fam, neu freichiau ei lu gyfeillion. Er hwyluso'i annibyniaeth etifeddodd gadair olwyn o rywle ac yn hon gallai ei yrru ei hyn drwy droi handlen megis pedalau beic oedd o'i flaen yn y gadair. Ond beth oedd yn anffodus oedd bod ei fam wedi dewis dod i Lansanffraid i fyw o bobman a hynny mewn ty bach teras ar ben allt serth. Mae Llan, fel y gwyr pawb, yn enwog am ei elltydd serth, ac ‘roedd hyn yn cyfyngu llawer ar grwydro Robert John. Amhosib oedd iddo fynd i fyny Allt y Capel gan mor serth yw hon, ac os oedd am fynd adref o dan ei stem ei hun roedd yn rhaid iddo hercian heibio'r Eglwys, i fyny allt Bryn Rhys ac yna ar y gwastad uwchben y hen fynwent. Oddeutu dechrau'r pum degau cafodd Robert John fodd i fyw pan ddaeth yn berchen car modur tair olwyn ---- yr enwog "Car Bach Pale Blue". Ro'n i'n tybio mai car gan y Llywodraeth i'r anabl oedd hwn, ond yn ôl un o hogiau'r Llan prynwyd y car wedi i gwsmeriaid tafarn y "Conway Vale" wneud casgliad. Tybed? Robert John yn derbyn anrheg o haelion llymeitwyr y fro!! " Scarcesly believe". Ac yntau'n Fand of Hoper rhonc trwy gydol ei oes!! Ta waeth am hynny; fe fu'r car bach yn foddion gras iddo ac o hyn ymlaen doedd dim atal ar ei grwydro er mawr boendod i'w fan druan, a bu'n gyrru hyd a lled y wlad ynddo i gapeli, ‘eisteddfodau, cyngherddau ac ar ambell i wyliau.

Er mawr ofid i'w fam a'i deulu cafodd Robert John gyfle i fynychu cwrs i'w hyfforddi i fod yn argraffydd, ond yn anffodus fe gynhelid y cwrs mewn coleg arbennig i'r anabl yn Exeter o bob man, ac roedd yn mynnu ei fod am yrru yr holl ffordd yn ei car bach. Taith o dros 300 o filltiroedd. Er mwyn osgoi y priffyrdd mawr aeth i Aberystwyth y diwrnod cyntaf ac aros mewn gwesty lle roedd wedi bwcio ystafell, a chael ei gyfarch ar stepan y drws gan y perchennog gyda'r geiriau: " If I'd known that you were handicapped I wouldn't have accepted your booking." Ond roedd gwaeth i ddod.! Yr ail stop oedd yn Casnewydd lle yr oedd eto wedi bwcio ystafell, ond pan ddaeth wyneb yn wyneb a'r perchennog, a hwnnw'n sylweddoli ei fod yn anabl dywedodd wrtho nad oedd lle yn y llety a'r tro hwn, gan ei bod yn hwyr y nos , bu'n rhaid iddo ofyn cymorth yr heddlu.

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus dychwelodd yn ôl i'r Llan yn berchen peiriant argraffu newydd sbon a bu'n ddiwyd yn argraffu posteri a thocynnau a manion bethau tebyg i'r gymuned a thy hwnt. Bu'n gweithio hefyd i gwmni baco "Bob Ni" yn y llan fel clerc yn y swyddfa, ac yn achlysurol yn argraffu papur rapio baco siag.

Daeth argyfwng enbyd i'w ran pan fu farw ei fam, ac roedd ei cholli hi yn golled enbyd iddo gan y gwyddai ei fod yn dibynnu'n gyfan gwbl arni am ei holl gynhaliaeth. Ond, doed a ddelo, roedd yn benderfynol ei fod am ymlwybro ymlaen ar ei ben ei hun a pharhau i fyw yn ei gartref yn Pentai. Ty rhent oedd ei gartref ac nid oedd sicrwydd y cawsai y denantiaeth ar ôl ei fam, ond yn ei awr tywyllaf fe ddaeth Ffawd yn ei dillad gorau i gynnig gobaith a chymorth iddo. Etifeddodd £500 a adawyd iddo gan aelod o Gapel Bryn Ebenesar, a chyda'r arian yma ag ychydig oedd yn weddill o eiddo ei fam fe aethom i Mochdre i geisio bargeinio gyda'r perchennog, gwraig weddw annwyl a charedig. Ymhen deuddydd fe gytunodd i werthu ac o'r adeg hynny ymlaen roedd dyfodol Robert John yn llawer sicrach.

Yn y cyfnod hwn cafodd lawer o gymorth a chefnogaeth gan Gymdeithas Spastics Bae Colwyn a'r Cylch, a'r cymorth hwn a alluogodd iddo gadw ei annibyniaeth.

Teyrnged i Robert John Owens gan John Emrys Williams, fy nhad, yn angladd Robert John Owens